Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel

Dyddiad: Dydd Iau, 16 Chwefror 2017

Amser: 09.30 - 14.41
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/3864


Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Dai Lloyd AC (Cadeirydd)

Dawn Bowden AC

Jayne Bryant AC

Rhun ap Iorwerth AC

Caroline Jones AC

Julie Morgan AC

Lynne Neagle AC

Tystion:

Dr Amanda Farrow, Royal College of Emergency Medicine Wales

Dr Robin Roop, Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys

Dr Martin Rolles, Pwyllgor Sefydlog Cymru o Goleg Brenhinol y Radiolegwyr

Dr Toby Wells, Royal College of Radiologists

Professor Keith Lloyd, Coleg Brenhinol y Seiciatryddion

Dr M Sakheer Kunnath, Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant

Professor Peter Barrett-Lee, Ymddiriedolaeth GIG Felindre

Martin Jones, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

 

Dr Evan Moore, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

 

Sharon Vickery, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Dr Philip Kloer, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Staff y Pwyllgor:

Claire Morris (Ail Glerc)

Sarah Sargent (Dirprwy Glerc)

Dr Paul Worthington (Ymchwilydd)

 

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriad gan Angela Burns AC.

 

2       Ymchwiliad i recriwtio meddygol - sesiwn dystiolaeth 6 - Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys a Choleg Brenhinol y Radiolegwyr

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o’r Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys a Choleg Brenhinol y Radiolegwyr.

 

3       Ymchwiliad i recriwtio meddygol - sesiwn dystiolaeth 7 - Coleg Brenhinol y Seiciatryddion a Choleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Goleg Brenhinol y Seiciatryddion a Choleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant.

 

4       Ymchwiliad i recriwtio meddygol - sesiwn dystiolaeth 8 – Byrddau Iechyd Lleol

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Ymddiriedolaeth GIG Felindre, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

 

5       Ymchwiliad i recriwtio meddygol - sesiwn dystiolaeth 9 – Deoniaeth Cymru

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Ddeoniaeth Cymru.

 

6       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod ac o’r cyfarfod ar 1 Mawrth 2017

6.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

7       Ymchwiliad i recriwtio meddygol - Trafod y dystiolaeth

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitemau 2, 3, 4 a 5.

 

8       Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) - Trefn Ystyried - cytuno mewn egwyddor cyn trafodion Cyfnod 2

8.1 Cyn cynnal y ddadl Cyfnod 1 ar 28 Chwefror a chytuno ar egwyddorion cyffredinol Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru), cytunodd y Pwyllgor, mewn egwyddor, ar y Drefn Ystyried a ganlyn at ddibenion trafodion Cyfnod 2 yn y pwyllgor:

Adran 3 i 26, Adran 2, Adran 27 i 52, Adran 54 i 91, Adran 53, Adran 92 i 124, Atodlen 1 i Atodlen 4, Adran 1, Teitl Hir.